Wed Mar 02 2022 at 10:00 am to 01:00 pm
Online
**Mae gweithgareddau CULT Cymru ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru**
**CULT Cymru courses are only available to those living in Wales**
Gweithwyr llawrydd neu staff sydd am sgleinio eu sgiliau rhwydweithio, codi eu proffil, i fod yn y lŵp a chael gwell gwaith. Rydym yn canolbwyntio ar y diwydiannau creadigol. Felly mae'n debyg y byddwch yn gweithio ym maes darlledu, ffilm, hysbysebu, theatr, ysgrifennu, cerddoriaeth, digwyddiadau byw, y celfyddydau ac ati...
Mae llawer o'n hyfforddeion yn gwybod bod rhwydweithio'n bwysig ond maent aml yn nerfus am siarad â phobl nad ydynt yn eu hadnabod.
Neu efallai eich bod yn iawn yn siarad â phobl wyneb yn wyneb ond ddim yn gwybod sut i adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein.
CynnwysNew or established freelancers or staff who want to polish their networking skills, raise their profile, keep in the loop and get better work. We focus on the creative industries. So you’ll probably be freelancing, or working in broadcasting, film making, advertising, theatre, writing, music, etc…
A lot of our trainees know networking is important but are nervous about talking to people they don’t know.
Or maybe you’re ok talking to people face-to-face but don’t know how to build social networks online.
Mae David yn ddarlledwr, hyfforddwr a rheolwr profiadol iawn, gyda diddordeb arbennig mewn sgiliau cyfathrebu a threfnu.
Mae wedi hyfforddi gweithwyr llawrydd a phobl greadigol eraill yn y BBC, ITV, Channel 4, yn ogystal â'r undebau adloniant a theatr Bectu, Equity, NUJ ac Undeb y Cerddor.
Mae ei hyfforddiant yn y cyfryngau yn canolbwyntio ar elusennau a chyrff anllywodraethol. Ymhlith y cleientiaid mae Age UK, Mencap, MEND, y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, Cronfa'r Brenin a'r Comisiwn Etholiadol, yn ogystal ag amrywiaeth o gyrff anllywodraethol yn y Cenhedloedd Unedig.
Mae wedi bod yn ymwneud â chynhyrchu radio ac ar-lein ers 30 mlynedd, yn bennaf gyda BBC World Service a radio lleol. Mae ei arbenigedd wedi mynd ag ef ledled y byd, gan weithio gyda darlledwyr o Ddwyrain Ewrop, y Dwyrain Pell, Affrica a'r Caribî.
Mae ganddo enw da am ddibynadwyedd a meddwl strategol miniog ac mae'n gyfathrebwr ardderchog. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn datblygiad personol a chymhelliant proffesiynol pobl eraill, wedi'i anrhydeddu drwy flynyddoedd fel arweinydd tîm a hyfforddwr.
Mae David yn aelod o'r BFI. Mae hefyd yn Aelod Cyswllt o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.
Ei ddiddordebau yw ffilm (yn enwedig ffilmiau Dwyrain Almaenig aneglur), cerddoriaeth, a theithio'r byd gyda'i deulu.
Trainer - David ThomasDavid is a highly experienced broadcaster, trainer and manager, with a special interest in communication and organisational skills.
He has trained freelancers and other creative people at the BBC, ITV, Channel 4, as well as the entertainment and theatre unions BECTU, Equity, NUJ and the Musician’s Union.
His media training is focussed on charities and NGOs. Clients include Age UK, Mencap, MEND, the Disasters Emergency Committee, the King’s Fund and the Electoral Commission, as well as a range of NGOs at the United Nations.
He has been involved in radio and online production for 30 years, mostly with the BBC World Service and local radio. His expertise has taken him all around the world, working with broadcasters from Eastern Europe, the Far East, Africa and the Caribbean.
He has a reputation for reliability and sharp strategic thinking and is an excellent communicator. He has a keen interest in personal development and professional motivation of others, honed through years as a team leader and trainer.
David is a member of the BFI. He is also an Affiliate Member of the Chartered Institute of Personnel and Development.
His interests are film (especially obscure East German movies), music, and travelling the world with his family.
CULT CYMRUMae gweithdai CULT Cymru yn cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar ac anfygythiol ble bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chodi materion yn ystod y dydd.
CULT Cymru workshops are delivered in a friendly and non-threatening environment where participants will have the opportunity to ask questions and raise issues during the day.
Diogelu Data
Ariennir Hyfforddiant Sector BECTU yng Nghymru yn rhannol gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru trwy brosiect yr undebau creadigol ar y cyd CULT Cymru. Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer y cwrs neu ddigwyddiad hyfforddiant hwn, rydych chi'n cytuno i rannu eich data personol gyda'r arianwyr fel rhan o delerau BECTU ar gyfer derbyn y cyllid. Defnyddir y data er mwyn dangos canlyniadau ac allbynnau yn unig ac fe'i cedwir yn ddiogel am gyfnod o 10 mlynedd, fel y nodir yn y cytundebau ar gyfer y cyllid.
Yn ogystal, mae Prospect/BECTU yn defnyddio’r data hwn i ddanfon gwybodaeth am ddigwyddiadau a hyfforddiant BECTU/CULT Cymru yn y dyfodol; eich diweddaru chi gyda newyddion, adnoddau a chyhoeddiadau ac i gysylltu gyda chi ar gyfer unrhyw ymchwil fyddwn ni am gynnal i’r diwydiant. Ni fyddwn yn rhannu neu ddefnyddio eich data heb eich caniatâd chi. Os gwelwch yn dda, arddangoswch eich bod chi’n hapus i BECTU/CULT Cymru gysylltu gyda chi yn y moddau yma trwy ticio ‘ie’ yn yr adran ‘Eich gwybodaeth chi' ar ddiwedd y ffurflen archebu.
Sut i gwyno neu wyrdynnu’ch caniatâd
Os nad ydych chi am dderbyn gohebiaeth bellach gan BECTU/CULT Cymru gallwch dynnu eich enw yn ôl trwy gysylltu gyda c2l3YW4gfCBiZWN0dSAhIG9yZyAhIHVr
Pe baech ag unrhyw gwestiynau neu bryderon am y data rydym ni yn cadw a sut yr ydym yn ei ddefnyddio, os gwelwch yn dda yn y man cyntaf cysylltwch gydag Adran Hyfforddiant BECTU/CULT Cymru. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cwyno am ddefnydd neu gasglu eich manylion gan yr Adran Hyfforddiant ei hun yna gallwch wneud hynny trwy ebostio’r Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data Tracey Hunt ar ZGF0YWNvbXBsaWFuY2UgfCBwcm9zcGVjdCAhIG9yZyAhIHVr
Data Protection
Prospect's BECTU Sector Training in Wales is partly funded by the Welsh Government’s Wales Union Learning Fund via the joint-union CULT Cymru project. By registering for this training course or event, you are accepting that your personal data will be shared with the funder as part of BECTU’s requirements to receive the funding. The data is used only to show outcomes and outputs and is securely maintained for a period of 10 years, as stated in contracts for the funding.
In addition, Prospect/BECTU uses this data to send you information about future BECTU/CULT Cymru events and training courses, update you on news, resources and publications and contact you for any future research we may conduct into the industry. We will never use or share your data without your permission. Please indicate that you are happy for BECTU/CULT Cymru to contact you in this way by ticking yes under 'Your information' at the end of the booking form.
How to withdraw your consent or make a complaint
If you no longer wish to receive communications from BECTU/CULT Cymru you can withdraw your consent by contacting the c2l3YW4gfCBiZWN0dSAhIG9yZyAhIHVr
If you have any questions or concerns about the data we hold and how we use it, please contact the BECTU/CULT Cymru Training Department in the first instance. However, if you wish to make a complaint about the Training Department's collection or use of your data, you are able to do so by contacting the GDPR Compliance Officer Tracey Hunt on ZGF0YWNvbXBsaWFuY2UgfCBwcm9zcGVjdCAhIG9yZyAhIHVr
Polisi Canslo ac Ad-daliadau:
Bydd ad-daliad llawn yn cael ei rhoi i gynrychiolwyr sy’n canslo o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad. O fewn y bythefnos cyn y digwyddiad, oni bai ein bod ni’n gallu dod o hyd i rywun arall i gymryd eich lle, ni fyddem yn gallu rhoi ad-daliad. Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib os na fyddwch yn gallu mynychu.
Cancellation and Refunds Policy
A full refund will be issued to delegates who cancel at least 2 weeks prior to the event. Delegates who cancel within the 2 week period will not be eligible for a refund unless we are able to find someone else to take their place. Please let us know as soon as possible if you find you're no longer able to attend the workshop.
Also check out other Workshops in Online, Entertainment Events in Online, Nonprofit Events in Online.
Tickets for Rhwydweithio a Chyfryngau Cymdeithasol / Networking and Social Media Skills can be booked here.
Ticket Information | Ticket Price |
---|---|
Aelod Undeb/Union Member | GBP 10 |
Di Aelod/Non Members | GBP 30 |
via Culture Connect Wales | GBP 10 |